Math | mosg, synagog, beddrod, safle archaeolegol, mawsolëwm |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina |
Uwch y môr | 890 metr |
Cyfesurynnau | 31.524672°N 35.110758°E |
Cyfres o ogofâu yw Ogof y Patriarchiaid neu Feddrod y Patriarchiaid sydd wedi'u lleoli 30 cilomedr (19 milltir) i'r de o Jeriwsalem, yng nghanol Hen Ddinas Hebron yn y Lan Orllewinol. Cant eu hadnabod gan yr Iddewon fel 'Ogof Machpelah' (Hebraeg: מערת המכפלה, Me'arat HaMakhpela; yn llythrennol mae'n golygu 'Ogof yr Ogofau Dwbwl'), ac i Fwslimiaid fel 'Cysegr Abraham' (Arabeg: الحرم الإبراهيمي, -Haram al-Ibrahimi). Yn ôl y crefyddau Abrahamaidd, prynwyd yr ogof a'r cae cyfagos gan Abraham fel man iddo gael ei gladdu.[1][2]
Dros yr ogof saif adeilad carreg caeedig petrual sy'n dyddio o oes Herod (37–4 CC).[3] Yn ystod rheol Bysantaidd y rhanbarth, adeiladwyd basilica ar y safle; troswyd y strwythur yn Fosg Ibrahimi yn dilyn concwest Mwslimaidd y Lefant. Erbyn y 12g, roedd y mosg a'r rhanbarthau o'i amgylch wedi dod o dan reolaeth gwladwriaeth y Croesgadwyr, ond cipiwyd nhw'n ôl yn 1188 gan y swltan Ayyubid Saladin, a drodd yr adeiladau'n fosg unwaith eto.[4]
Yn ystod Rhyfel Chwe Diwrnod 1967, atafaelwyd a meddiannwyd y Lan Orllewinol gyfan gan Wladwriaeth Israel, ac ar ôl hynny rhannwyd y strwythur yn synagog Iddewig a mosg.[5] Ym 1994, digwyddodd cyflafan Ogof y Patriarchiaid ym Mosg Ibrahimi, pan ddaeth terfysgwr o Israel i mewn i'r adeiladau ar wyl Iddewig y Purim - a oedd hefyd yn ystod cyfnod sanctaidd Islamaidd Ramadan - a saethwyd yn farwnifer o Fwslimiaid Palestina a oedd wedi wedi ymgynnull i weddïo yn y mosg, gan ladd 29 o bobl, gan gynnwys plant, a chlwyfo dros 125.[6]
Ystyria'r Iddewon mai'r safle hwn yw ail-le mwyaf sanctaidd yn Hen Ddinas Jerwsalem, ar ôl Mynydd y Deml.[6]